yn oed ganol dydd. Prin y gwyddai i ddim sicrwydd ei fod ar yr iawn lwybr, ond cofiodd y dylai cyn hir ddyfod i le agored, ac y gallai gerdded oddi yno ar gylch yn y cysgod nes cyrraedd y tŷ. Nid oedd yno lwybr o fath yn y byd i'w arwain, canys gwell fuasai gan bobl yr ardaloedd hynny gerdded-deng milltir o gylch nag unioni drwy gwm y Plas.
Dewisasai Bonnard ymwthio drwy'r coed at y tŷ yn hytrach na dilyn y ffordd. A thybio bod rhywun yn byw yn y tŷ, gallasent ei weld pe daethai ar hyd y ffordd. Ac yr oedd yr olion ar glo'r drws wedi codi amheuon rhyfedd yn ei ben. Credai i rywun fod yno yn ddiweddar, a gallai fod yno eto. Os troseddwr ydoedd, anodd fuasai iddo gael sicrach mangre yn y wlad; diogelach ydoedd yn unigedd Plas y Nos na phe gwersyllasai cad o'i gylch.
Bob yn dipyn, dechreuodd y coed deneuo, ac ymgripiai ambell belydr crwydr o olau'r lleuad rhwng y brigau ar ei lwybr. Petrusodd yn awr pa un a gyraeddasai'r pwynt a ddymunai ai peidio. I gefn y tŷ y dymunai ddyfod. Foment yn ddiweddarach, tybiodd iddo gael cipolwg ar y muriau llwydion, ond nid oedd yn sicr. Yr oedd hyd yn hyn yn rhy bell i weled yn glir. Symudodd yn fwy gofalus fyth yn awr; cyrhaeddodd y drysni a fuasai unwaith yn bleserfa, a gwelai'n eglur hen dŵr y Plas yn estyn ei ben i'r awyr o fewn rhyw dri chanllath iddo.
Dan arian lewych y lloer, edrychai'r hen Blasty'n wych a phrudd. Adlewyrchid y golau o wydr y ffenestr, a disgleiriai'r eiddew gwyrdd a ymgenglai am y conglau, y muriau a'r simneiau, yn llachar dan ei belydr.