Taflai'r muriau uchel eu llaesion gysgodion ymhell ar un ochr i'r tŷ, mor bell fel y toddai eu hymylon i ddudew wyll y pellter.
Safodd Bonnard yn awr ennyd, â'i law chwith ar ei galon, ond ni ddaeth y syniad o droi'n ôl i'w ben. Er echrysloned ei neges, er dued y lle y tyngasai yr âi iddo, ni bu torri ei benderfyniad erioed ymhellach oddi wrtho. Yno y safai yn yr unigedd. Trwy'r coed o'i amgylch griddfanai gwyllt ruthrwynt Medi, o'r brigau uwchben cododd anniddan ddolef tylluan, ac atebwyd hi gan un arall o'r eiddew ar fur y tŷ—y ddwy fel pe baent yn ymgomio amdano, ac yn chwerthin am ei ben. O'i flaen yr oedd Plas y Nos, a lloriau ei ystafelloedd wedi eu halogi gan sang troed y llofrudd, a'i sylfeini wedi yfed gwaed gwirion a godai fyth yn weddi fud at orsedd y Sawl a esyd farn ar y ddaear. Oerai'r cof am hyn y gwaed yn ei wythiennau, ond symudodd ymlaen a meistrolodd ei deimlad. Gwelodd nad oedd perygl i neb ei ganfod yno rhwng y prennau tal a'r llwyni tewion. Yn ddiymdroi, heb aros munud yn hwy, cerddodd at y tŷ, a daeth at y drws bychan a welsai'r bore cynt.
Gafaelodd ynddo, a cheisiodd ei agor, ond methodd; yna ciliodd yn ôl yn araf, â'i lygaid ar y muriau. Gwelodd ffenestr uwchben y drws, ryw ugain troedfedd uwchlaw'r llawr; tyfai'r eiddew yn dew a chryf ar hyd y mur; dyn ysgafn ac ystwyth ydoedd yntau, a dringwr campus. Yn ei logell cariai lusern dywyll, a meddyliodd y gallai dorri gwydr y ffenestr â'i gyllell, neu ddwrn ei lawddryll, oni byddai yno rywbeth grymusach i'w gadw draw.
Ni thorrai dim ar y distawrwydd ond griddfanau'r