gwynt yn y coed, a thrist waedd aderyn y nos. Dechreuodd ddringo'r mur ar hyd yr eiddew heb golli amser. Daliai'r ciddew ei bwysau, a phrysurai yntau i fyny; ond heibio i'w wyneb cododd tylluan fawr o'r eiddew, â sgrech annaearol, wedi ei haflonyddu ynghanol ei myfyrdodau. Wrth glywed oernad y dylluan, cododd nifer o ystlumod hwythau o'r eiddew, i wibio o'i amgylch, a'u gwichiadau treiddiol a dieithr yn merwino'r glust. Ond nid gŵr a ddychrynai rhag ei gysgod oedd Bonnard.
Dringodd yn chwim a gofalus, a chyn pen ychydig eiliadau yr oedd yn eistedd ar astell lydan y ffenestr. Cafodd amryw o'r chwarelau gwydr wedi eu dryllio, ac nid oedd caead oddi mewn, a gwelodd y gallai fynd trwyddi heb ddim ond ei hagoryd. Nid gwaith rhwydd oedd hynny. Gallai gyrraedd y glicied, ond yr oedd honno wedi rhydu wrth sefyll gyhyd, nes anystwytho ei chymalau, a gwneud ei hagor y nesaf peth i amhosibl. Ond wedi ysgytian a llafurio am tua chwarter awr, llwyddodd i wthio un ochr yn agored.
Bellach, nid oedd cloffi rhwng dau feddwl i fod. Ni wnâi ei anawsterau ond codi ei ysbryd, a gwroli ei galon. Magodd math o deimlad o oruchafiaeth yn ei fron, ac â llaw gadarn a ffyrnig y gafaelodd yn nwrn ei lawddryll, ac y trodd ei lusern i mewn i'r ystafell. Gwelodd fod y llawr o fewn llathen i'r ffenestr, a'r eiliad nesaf yr oedd yn sefyll arno. Safai tu mewn i furiau Plas y Nos.
Cododd ei lusern i edrych o'i gylch. Ystafell ganolig ei maint, nenfwd isel, a heb ddodrefnyn o'i mewn; derw du yn gwisgo'r muriau, a llwch tew dros y llawr