ac ar hyd y muriau; ac o'r nenfwd, yn rhaffau hirion yn siglo yn ôl ac ymlaen yn yr awel o'r ffenestr, crogai gweoedd cenedlaethau o bryfed cop. Gwelodd ddrws o'i flaen, a rhedodd iasau dieithr drosto wrth sylwi ei fod yn gil-agored. Llaw pwy a'i gadawodd felly, a pha bryd? Ai tybed ei fod wedi sefyll yn gil-agored am ugain mlynedd? Ond deuai teimladau eraill ato hefyd. Plas y Nos! Dyma ef tu mewn iddo. Teimlai ei anadl yn pallu, a'i waed ar dân.
Wedi ei feistroli ei hun unwaith eto, croesodd at y drws yn ddistaw, a thynnodd ef yn agored. Wrth iddo wneud hynny, rhuthrodd rhywbeth yn chwim drwy'r fynedfa tu allan—llygoden Ffreinig, fe ddichon—ond camu yn ôl a wnaeth Bonnard, a'i galon yn ei wddf. Y foment nesaf, fe'i ceryddodd ei hunan am ei ofn di-sail ac ofergoelus, a cherddodd yn benderfynol i'r fynedfa.
Anhygar oedd golwg y lle, ac arwyddion eisiau ymgeledd, ac adfeiliad yn amlwg. Mynedfa lydan, a drysau o boptu, a llwch a gweoedd cop ymhobman. Beth sy'n cenhedlu ysbwrial mewn lleoedd anghyfannedd? Daw i fod ohono'i hun, rywfodd. Dyma le y gallai fwy na disgwyl cyfarfod ynddo ag ymwelydd o fyd arall.
Yn y dwfn ddistawrwydd gallai glywed curiadau ei galon ei hun. Teimlai fel pe bai rhywun neu rywbeth tu ôl iddo, ac wrth iddo symud meddyliodd glywed cam o'i ôl, ac anadl rewllyd yn cyffwrdd â'i rudd, a chrechwen isel ddieflig yn merwino'i glustiau. Ond erbyn troi'r llusern yn ôl, nid oedd yno ddim ond y tywyllwch pygddu. Bwriodd ymaith ofn oddi wrtho; camodd yn gyflym at y drws ar ei gyfer, a gafaelodd yn