gwawr allan—a dyna'r cwbl. Yn ei phen draw yr oedd drws yn agor i ystafell arall ymhellach i mewn. Cacodd Bonnard y drws y daethai drwyddo, rhag i neb ddyfod ar ei warthaf o'i ôl yn ddirybudd, ac aeth ymlaen at y bwrdd i weled y llyfrau. Hen gopi o'r "Bardd Cwsc" oedd un, wedi ei argraffu yn Llundain gan E. Powell yn y flwyddyn 1703; un arall yn hen gopi o'r "Vita Nuova", gan Dante, yn yr Eidaleg. Amlwg oedd mai llyfrau hynafol o'r llyfrgell ydoedd y rhai hyn. Ond pwy a oedd yn eu darllen? Nid dyma'r math o lenyddiaeth y buasai troseddwr o radd isel yn ei chwenychu.
Rhedodd hen ias yr ofn dieithr dros ei holl gorff drachefn. Cydiodd yn y llyfrau, a theimlodd y cadeiriau, er mwyn bod yn sicr mai sylweddau gwirioneddol oeddynt, ac nid cysgodion hud a lledrith. A! dyna sŵn agor y drws ar ei gyfer yn peri iddo droi'n sydyn, a'i galon yn llamu o'i fewn, a'i fysedd yn dynn am ddwrn. y llawddryll.
Llaciodd ei afael yn hwnnw yn y fan, oblegid, beth bynnag oedd y ffurf o'i flaen, pa un bynnag ai cig a gwaed, ai ynteu un o ddinasyddion bro'r oesol ddistawrwydd, oedd ei ymwelydd, prin y gallai neb ofni rhagddi, nac ymarfogi i'w chyfarfod.
Nid oedd namyn geneth ifanc, ac nid ymddangosai yn fwy na deunaw oed. Geneth dal, osgeiddig, a hardd, digon glân ei phryd i fod yn ysbryd, a thynerwch a thlysni rhyfedd yn gwisgo ei hwyneb. Prin y gallasai llygad perffaith hen gerflunwyr Groeg weled bai ar gyfuniad diledryw llinellau ei hwyneb, a gwisgwyd y ffurf â chroen mor lân â gwedd lili'r dyffrynnoedd.