Euraid a ilaes oedd ei gwallt, yn disgyn yn dresi rhyddion ar hyd ei hysgwyddau. Syml a rhydd oedd ei gwisg amdani, heb na gwasg na gwregys i gadwyno helaethrwydd ei chwmpas, a'i lliw yn wyn o dan aur ei gwallt. Fel
Aur melyn am ewyn môr,
Tresi mân tros ei mynor.
Agorodd Bonnard ei lygaid mewn syndod gerbron y weledigaeth brydferth hon. Sylwodd ar unwaith ar ei llygaid mawrion disglair, a theimlai fod rhywbeth dieithr, pell, trist, yn eu dyfnder. Rhyfedd oedd ei gweled yno, yn ifanc a thlws ynghanol henaint prudd Plas y Nos—fel pelydryn goleuni yn trywanu ei farnol wyll. Ni ddywedodd Bonnard air, ond parhau i syllu arni mewn syndod. Beth bynnag y dychmygasai gyfarfod ag ef ym Mhlas y Nos, diogel yw credu na ddisgwyliasai erioed mo'r weledigaeth hon.