Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/50

Gwirwyd y dudalen hon

6

GWIRIO BREUDDWYD

Is all that we see or seem
But a dream within a dream?

CANFU'R eneth bron yn ddiatreg fod rhywun heblaw hi yn yr ystafell, a newidiodd gwedd ei hwynepryd. Er hynny, nid oedd dim tebyg i ddychryn yn ei llygaid; yn hytrach, syndod, a gwelwodd ei gruddiau ychydig. Yn lle cilio'n ôl, cymerodd gam neu ddau tuag at Bonnard, ond neidiodd ef yn ôl, a'i deimladau'n gyffrous. Beth, mewn difrif, oedd o'i flaen? Ai drychiolaeth brydferth rhyw freuddwyd a angofiasai? Ai ynteu geneth fyw mewn cnawd, a'i synhwyrau wedi hanner drysu, nes dwyn diniweidrwydd y plentyn yn ôl i lywodraethu ei symudiadau? Wedi edrych funud arni, gwelodd yn amlwg y drem na allai ei chamgymryd, trem ryfedd, ddieithr, y llygaid sydd â'r meddwl tu ôl iddynt wedi ei amharu. Wrth ei weled yn cilio rhagddi, safodd yr eneth yn sydyn, a rhoes ochenaid fawr; edrychodd yn siomedig, a heb wybod yn iawn beth i'w wneud. Yna, estynnodd ei dwylaw yn araf at Bonnard, fel pe bai'n distaw erfyn arno beidio â diflannu o'i golwg. Yn araf iawn nesaodd ato, ac wrth ei weled ef yn aros yn yr unfan, daeth pleser a llawenydd fel golau heulwen i dywynnu yn ei hwyneb. Ond, yn gymysg â'r llawenydd, yr oedd elfen o ansicrwydd, fel pe bai'n methu â