"I'ch achub?" meddai Bonnard.
Ni fedrai yn ei fyw deimlo nad breuddwydio yr oedd; ac yr oedd y syfrdandod o hyd yn ei ben. Yn y llygaid a syllai'n dawel i'w lygaid ef, gwelai gariad pur, tyner, a digwestiwn y plentyn, yn gloywi. Edrychai arno fel pedfai'n rhywun annwyl iawn yn ei golwg—rhywun y meddai ddwfn edmygedd ohono, rhywun y bu'n wylo ac yn hiraethu amdano, ac o'r diwedd wedi ei gael. Megis yn reddfol, estynnodd ei gwefusau i geisio'r eiddo ef; yntau fel o'r blaen yn ateb drwy blygu dros ei hwyneb tlws, a chusanu ei grudd delediw; cusan mor bur a diniwed â'r rudd a'i derbyniodd, heb na meddwl na phoeni am ddryced na daed ei weithred.
"Mi wnewch fy achub-i, on' wnewch-chi?" ebr yr eneth. "Ai 'y nghlywed-i yn galw arnoch-chi, a dwad yma wnaethoch-chi?"
Gwnaf, mi'ch achuba-i chi," ebr yntau, wrth weld ei bod yn disgwyl am ryw atebiad ganddo.
Cliriai ei ben yn awr, a gwelodd, pa ddirgelwch bynnag a allai fod ym Mhlas y Nos, a pharthed presenoldeb yr eneth hon ynddo, fod ei synhwyrau wedi eu drysu i ryw raddau, ac mai gwell oedd ei hateb fel y dymunai, yn hytrach na'i chroesi. Am hynny, dywedodd yn dyner:
"Do, mi'ch clywais-i chi'n galw arna-i, ag mi ddois atoch-chi. Ond deudwch wrtha-i pam roeddech-chi'n galw arna-i. Welsoch-chi mono-i erioed."
"Wel, do; on' ddaethoch-chi yma mewn breuddwyd, a dyna sut y gwelais-i chi. Ga'-i ddeud yr hanes wrthoch-chi rwan? Ust!" a chododd ei bys at ei gwefus i wrando, "dyna'r tylluanod. Glywch-chi