bod hi-'n hanner nos, a minnau'n eistedd yma ag yn darllen fel arfer, a'r tylluanod yn tyrfu tu allan. Mi rois innau'r llyfr ar y bwrdd i wrando ar yr adar yn siarad â'i gilydd. Fedrwn-i ddim darllen, dim ond meddwl, a meddwl o hyd, ag O! roedd arna-i hiraeth-hiraeth ag cisio i rywun ddwad i 'ngwaredu-i o'r fan yma, a nysgu-i i gofio'r holl bethau sy wedi dengyd o ngho-i-a'r pethau ofnadwy a 'ngyrrodd-i o 'ngho. Yn reit sydyn, dyma'r drws yn agor, a chithau'n dwad i mewn. Roeddech-chi'n edrych yn union fel yr ydech-chi heno, yn hardd a charedig a boneddigaidd; doedd arna-i ddim o'ch ofn-chi. Mi godais ar 'y nhraed, ag mi edrychais arnoch-chi; a dyma chithau'n dwad ymlaen, ag yn estyn ych breichiau, ac yn deud: 'Dowch ata i, Llio, rydw-i wedi dwad i'ch gwaredu-chi, a rhaid ichi 'ngharu-i ag ymddiried yno-i!' Ych llais chi oedd-o hefyd-mi adwaenais i-o mewn munud pan ddaru-chi ddechrau siarad. Ag mi ddaruch roi ych breichiau amdana-i, a 'ngwasgu-i i'ch mynwes, a 'nghusanu-i; ag mi wyddwn innau mai ych eiddo-chi fyddwn-i byth mwy, ag y gwnaech-chi 'y ngwaredu i."
Wedi iddi dewi, daeth Bonnard yn ymwybodol o deimladau rhyfedd a newydd eto yn ei galon. A allai amau mai llaw Duw a'i harweiniasai i Blas y Nos? Gwelai y byddai raid iddo waredu Llio, deled a ddelai, beth bynnag arall a ddeuai i'w ran yn y fangre unig, anial. Gwelai nad gwallgofrwydd cyffredin oedd afiechyd Llio, ond coll cof oherwydd ergyd drom i'r teimladau; credai hefyd y gallai cariad a thynerwch ei hedfryd. Gwasgodd yr eneth deg yn nes i'w galon, a phlygodd drosti mewn distawrwydd.