"Mi'ch gwareda-i chi, Llio bach, a Duw a 'nghynorthwyo-i. F'eiddo i ydech-chi, a'r nefoedd sy wedi ych rhoi-chi imi."
"Ie," atebodd hithau yn dawel ac isel, "a rhyw ddiwrnod mi ewch â fi o'r lle yma, ond nid yrŵan. Ymddangosai i Ivor iddi gymryd yn ei phen fod ganddi ryw orchwyl i'w gyflawni yn y lle, ac na allai ei adael nes gorffen hwnnw.
Y cynllun cyntaf y meddyliodd amdano oedd ei symud y noson honno o'r lle diobaith hwnnw. Ond dangosai rheswm iddo nad oedd y cynllun hwn yn bosibl. I ble yr âi â hi? Ni wyddai am neb y gallai ei gadael gyda hwy. Na, amlwg oedd fod yn rhaid ei gadael yno ar hynny o bryd. Ond mynnai ei gweled bob nos, a'i hennill yn ôl i'w pherffaith reswm. Teimlai, os oedd ganddo neges arbennig wrth ddyfod i Gymru, fod gan y Nefoedd un arall iddo hefyd, a rhaid oedd gwneud honno, beth bynnag, o flaen pob neges bersonol. Hwyrach yr arweiniai'r nef ei amcan ef i ben drwy'r antur ryfedd hon. Mynnai, beth bynnag, wneud y peth iawn â'r eneth ddiamddiffyn.
Eisteddasant am amser maith gyda'i gilydd. Ni ddywedai Llio ond ychydig; ymddangosai'n hynod ddedwydd, ac ymnythai yn ei gysgod. Ni theimlai Bonnard ar ei galon ei holi am ei thad, os ei thad oedd y creadur a breswyliai yn y lle rhyfedd ac ofnadwy hwn. Rhaid, fodd bynnag, fyddai ei gadael cyn toriad gwawr.
Nid gwaith hawdd oedd ymwroli i'w gadael. Nid caredig oedd meddwl am hynny. Hefyd, dedwyddwch dieithr ydoedd aros yn agos ati, gwrando ar ei llais melysfwyn, cynnal ei phwysau yn ei freichiau, edrych