Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w llygaid gleision, tywyll, yn llawn o gariad a di- niweidrwydd, gwylio a chusanu ei gwefusau glân, na wyddent am na chywilydd na phechod. Ond rhaid oedd mynd, a rhaid oedd dweud hynny wrth Llio. Pan awgrymodd fod yn rhaid iddo'i gadael am ychydig, synnodd ei bod yn derbyn hynny yn hollol dawel fel y peth naturiol.

"Mi ddowch yn ôl eto fory," meddai hi, yn dawel, fel ffaith, ac nid fel cwestiwn.

"O, do, 'y nghariad-i, mi ddo'-i'n ôl yfory."

Bodlonodd iddo fynd, ac nid amheuai am foment na ddeuai yn ei ôl. Gwelodd Bonnard hiraeth yn gymysg ag amynedd ar ei hwyneb, wrth ei weled yn cymryd ei het i gychwyn; ond ni ddywedodd air yn erbyn hynny. "Nos dawch, Llio," eb ef. "Mae'n anodd gen i ych gadael-chi yma ych hun, ond rhaid imi fynd.

Ond mi ddowch yn ôl," atebodd hithau. "Does arna-i ddim ofn y tylluanod; maen-nhw'n fy nabod i, ag yn siarad hefo-mi; a wna neb niweidio Llio. Heblaw hynny, does yma neb arall ond-y meirw!"

"A does arnoch-chi mo'i hofn nhw?

"O, nag oes. Dydw-i ddim wedi gwneud cam â neb ohonyn-nhw. O, rydw i'n hapus rŵan."

"Ydech-chi, mhlentyn-i? Rydw-i'n falch iawn o hynny."

"Mi wn-i na fyddwch-chi ddim yn hir," meddai'n synfyfyriol. "Mynd rydech-chi i drio ffeindio beth ydw i wedi'i anghofio; ond peidiwch â gadael iddo fo ych gweld-chi," sibrydodd yn ei glust, "neu mi geisia'ch dychryn-chi, a'ch gyrru o'ch co."

Wedi ei chusanu'n serchog a pharchus, a'i dal yn ei