Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

7

HAFOD UNNOS

FEL y rhodiai Ivor Bonnard yn ôl at Gwynn Morgan i'r pentref, ceisiai benderfynu a ddywedai wrth Gwynn ai peidio am antur y noson ym Mhlas y Nos. Cas oedd ganddo gadw dim oddi wrth gyfaill mor bur a rhadlon â Gwynn; eto, teimlai mai ychydig iawn o wir wybodaeth a oedd ganddo, ac mai gwell oedd aros nes i'r stori ddyfod yn fwy cyflawn. Teimlai fod rhesymau eraill pwysig iawn dros iddo gadw'i gyfrinach iddo'i hun ar hynny o bryd. Gwyddai mai prin y gallai distawrwydd beri niwed i neb na dim, ond ni wyddai beth a ddigwyddai, na phwy a glywai, unwaith y dihangai'r gyfrinach dros ei wefus.

Erbyn iddo gyrraedd y pentref, yr oedd rhai o'r pentrefwyr ar eu traed, ac wedi dechrau ar orchwylion y dydd. Wrth weled y dyn ifanc dieithr yn dychwelyd i'r pentref ar yr awr gynnar honno, a llaid taith bell ar ei wisgoedd, a'i lludded i ryw fesur yn ei symudiadau, safai'r pentrefwyr i lygadrythu arno, â chwilfrydedd amlwg ar eu hwynebau.

"Wna hyn mo'r tro o gwbwl," meddyliodd yntau, "fe fydd fy ngwaith yn mynd a dwad yn lladradaidd yn y nos yn siŵr o dynnu sylw at fy symudiadau, a chodi amheuon pobol yn fy nghylch. Ac os dechreuant fy nrwgdybio, y tebyg yw y gwylir fi; a wna-hi mo'r tro ar hyn o bryd i neb feddwl fod a wnelwyf i â Phlas y