eu cuddio ganddo. Erbyn agor y drws, nid deniadol iawn oedd yr olwg tu mewn. Yr oedd mawr angen am ysgub a dwfr arno, ac nid oedd ei furiau yn edrych yn lân iawn; buasai'r pryf copyn yn brysur am fisoedd yn crogi ei weoedd drostynt. Agorai'r drws yn syth i'r ystafell a wasanaethai fel parlwr a chegin ynddo. Ac o honno agorai dau ddrws i ddwy ystafell gysgu, a dyna holl ystafelloedd yr Hafod Unnos. Llawr pridd a oedd i'r gegin, a llawr coed go arw yn yr ystafelloedd cysgu. Isel oedd y drws, a rhaid oedd i'r ddau ŵr ieuanc blygu eu pennau wrth fynd i mewn. Fel y dywedasai Gwynn wrth Mr Jones, gallai'r ddau ddygymod ag amgylchiadau dipyn yn wasgedig heb ddioddef fawr o anhwylustod. Gwelsant y gwnâi'r bwthyn y tro, ond ei lanhau, a chael ychydig ddodrefn iddo.
Wedi cyrraedd yn ôl i'r pentref, cymerasant y bwthyn, ac anfonwyd gwraig weddw yno ar unwaith i'w lanhau. Prynasant hefyd amryw fân lestri, a phethau eraill, at eu gwasanaeth, a rhoesant gyfarwyddiadau i Mr Jones i anfon ymborth a phethau angenrheidiol eraill iddynt bob dydd. Wedi hynny, aeth Bonnard a Morgan i'r dref nesaf i brynu hynny o ddodrefn rhad a oedd yn angenrheidiol. Llwyddasant i gael y dodrefn yno y prynhawn hwnnw, ac erbyn wyth o'r gloch y nos yr oedd eithaf trefn ar bethau. Gosododd y wraig swper blasus o'u blaenau, ac yna aeth ymaith gan addo bod yn ôl erbyn deg fore drannoeth.
Eisteddodd y ddau i fwyta eu hwyrbryd, ond byr waith a wnaeth Bonnard o'i ran ef ohono. Teimlai nad oedd ganddo amser i'w golli. O'i flaen yr oedd pum milltir o daith, ac yn ei fynwes awydd angerddol am