Yn yr hen gadair dderw, a'i ochr at y bwrdd, eisteddai hen ŵr; dichon nad oedd yn fwy na thrigain oed, dichon ei fod yn bedwar ugain; yr unig beth sicr amdano oedd ei fod yn hen. Edrychai yn awr yn llawn pedwar ugain, ond petasai wedi byw ugain mlynedd arall, prin y gallasai edrych yn hŷn. Yr oedd yn dal, ond wedi crymu cymaint nes ymddangos yn fyr; gwelw oedd ei wyneb, a thenau iawn, fel ei gorff i gyd. Gwelid olion poen fawr ar ei ruddiau llwydion. Aethai ei fochau'n bantiau, a'i wefusau'n sychion a gwynion; bychain oedd ei lygaid, a llwydion, eto aflonydd a threiddgar; a than ei aeliau trymion edrychent fel dau farworyn disglair o dân. Edrychai o'i gylch yn wastad, fel pe bai wedi arfer bod ar ei wyliadwriaeth. Yr oedd, hefyd, rywbeth fel cysgod ofn yn ei lygaid a holl ystum ei gorff, tebyg i'r hyn a welir mewn creadur sy'n wastad yn cael ei hela. Ond nid golwg ddiniwed yr ysgyfarnog neu'r carw, eithr golwg creadur maleisus, gwenwynig a chreulon.
Aflerw a di-drefn oedd holl olwg yr hen greadur; yn lle côt gwisgai fath o ŵn carpiog, ac am ei ben hanner moel yr oedd cap bychan du. Pe digwyddasai i'r dyn mwyaf materol, yr amheuwr onestaf ym modolaeth ysbrydion, weled y creadur dieithr hwn yn un o fynedfeydd Plas y Nos, diau y buasai'n amau ei fateroliaeth ei hun, ac yn hanner credu mai drychiolaeth a welsai.
Ond nid ef oedd yr unig un yn yr ystafell; yr oedd Llio gydag ef, Llio mor swynol a phrydferth a diniwed ag yr oedd ef o hagr ac atgas. Edrychai'r eneth arno â theimladau cymysg o ofn a chasineb, fel a fydd yn