RHAGAIR
Pan oedd Silyn yn weinidog yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, rhwng 1905 a 1912, fe sgrifennodd lawer iawn i'r papur newydd Y Glorian—Nodion Llenyddol, hanes ei deithiau ar y Cyfandir, ac ysgrifau ar bynciau cymdeithasol, megis y Darfodedigaeth neu Bwnc y Tir, Y Ddaear Newydd, ac Adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Ddeddf y Tlodion. Heblaw ychydig straeon byrion, ysgrifennodd dair stori hir, sef Llio Plas y Nos yn 1906, Y Ddeilen Aur yn 1907, a'r Bugail Geifr yn 1908. Cyfieithiad o stori Ffrangeg oedd Y Bugail Geifr, ac fe'i cyhoeddwyd yn llyfr yn 1925, o dan y teitl Bugail Geifr Lorraine.
Ni roes Silyn ei enw wrth yr un o'r tair stori yn Y Glorian. "Owen Glynn" oedd y ffugenw a roes arno'i hun wrth gyhoeddi Llio Plas y Nos, ond y mae cyfeiriadau ati yn ei lythyrau yn profi'n eglur mai ef a'i hysgrifennodd. Hyn ar wahân i'r ffaith mai stori am Ddyffryn Nantlle ydyw, a bod delw Silyn yn drwm arni—ceir un o'i hoff eiriau, " gwyllnos ", hyd yn oed yn y frawddeg gyntaf. Stori antur ydyw Y Ddeilen Aur, ac nid oes gennym ddim byd i brofi ar ei ben mai Silyn yw awdur hon, ond fe gadarnheir y dybiaeth gan un ffaith ddiddorol. Bachgen o Efrog Newydd ydyw un o arwyr y stori, bachgen o'r enw Photios Llewelyn, ei dad yn Gymro a'i fam yn Roeges. Bûm yn dyfalu o b'le y cafodd Silyn yr enw "Photios", a chefais ateb