fyw, a thu hwnt i'ch gafaelion chwi; i'w ddwylaw ef y trosglwyddaf fy achos."
Tremiodd y dyn o'i amgylch ogylch i bob man, a gwasgodd y llythyr yn ei ddwylaw; yn raddol, ciliodd yr ofn o'i wyneb, a gloywodd goruchafiaeth faleisus yn ei lygaid meirwon.
Un na ŵyr ddim yn awr," mwmialai, "ag ni chaiff wybod byth. Rydw-i'n hollol ddiogel tra bydd yr eneth yn wallgo, ag mi gymera-i ofal am i chadw-hi felly tra bydd-hi byw. Does neb yn gwybod, a phe baen-nhw'n gwybod, fuasen-nhw byth yn meddwl chwilio amdanai yn y fan yma. Na, rydw-i'n ddiogel—yn ddiogel hefo'r ystlumod a'r tylluanod, ag adar y nos a'r cyrff meirw-dydyn nhw ddim yn cario straeon." Chwarddodd yn uchel! Chwerthiniad di-bwyll, erchyll, arswydus; yfodd chwaneg o frandi, a chwarddodd drachefn.