"Y fo sy wedi fy nychrynu i," ebr hi, ac ymwasgodd yn nes ato.
"Y fo? Pwy ydi-o, Llio?"
"Y nhad," sibrydodd hithau.
"Llio, ydi-o'n greulon wrthych-chi?"
"Nag ydi, O, nag ydi, wir; ond mae-o'n edrych mor hyll a dychrynllyd, ag yn gwneud imi gofio nad oeddwn-i ddim bob amser o ngho."
Awgrymodd hyn i Bonnard fod yn rhaid bod rhyw gysylltiad rhwng ei thad ac ystâd bresennol ei meddwl. Hwyrach mai bod yn dyst o ryw weithred ysgeler ac erchyll o'r eiddo ef a'i gyrrodd yn wallgof. Rhaid holi chwaneg arni.
"Doeddech-chi ddim yn y fan yma bob amser, Llio, oeddech-chi?"
"Nag oeddwn," atebodd hithau, ond eto heb fod yn sicr iawn o hynny.
"Ydech-chi'n ych cofio'ch hun yn rhywle arall cyn dwad yma?"
"Dwn-i ddim. Mi fydda-i'n cofio gweled afon a choed, a rhywun fyddai'n 'y ngharu-i ag yn 'y nghusanu-i, ag yn 'y nghario i ar i fraich, a minnau'n eneth bach; ond hwyrach mai breuddwydion ydi pethau felly i gyd."
"Welsoch-chi neb oedd yn ych caru-chi ar ôl hynny, Llio? "
Edrychodd yr eneth ym myw ei lygaid, a darllenodd yntau'r cwestiwn yn ei threm: "On' dydech chi yn 'y ngharu-i?" Ac yn ateb i gwestiwn ei threm gwasgodd hi'n nes ato.