Ydw, Llio, rydw i'n ych caru-chi. F'anwylyd i ydech-chi, on'te?"
Daeth gwrid gwan dros ei gruddiau gwynion, ac am eiliad methodd ei llygaid gyfarfod ei lygaid ef. Gwelodd iddo gyffwrdd y reddf fenywaidd a oedd yn huno o'i mewn, ond eto heb ei deffro, a churodd ei galon gan lawenydd newydd wrth weled arwydd o hynny. A oedd rhywbeth yn bod na allai cariad ei harwain drosto i'r goleuni? Gwynfydedig fyddai'r dydd y gwelai hi wedi dysgu ei ofni, a gwylaidd gilio oddi wrtho, a hanner cywilyddio am huodledd ei chariad syml, plentynnaidd. Ond dyna'r dydd y gallai ef ei hawlio fel ei eiddo, a'i derbyn mewn gwirionedd.
Wedi syllu ar y llawr am ychydig amser, cuddiodd ei hwyneb ar ei fynwes, a sibrydodd:
Rydw innau'n ych caru chithau'n fwy na dim."
Plygodd yntau i lawr, a chusanodd ei thalcen can, a gwelodd y gwrid egwan yn mantellu ei grudd eilwaith. Nid y gwrid tanbaid hwnnw mohono a lysg ruddiau rhiain pan ddeffry traserch yn ei natur. Tebycach oedd i wrid loes ar wen rudd lleian sant darluniau anfarwol y Canol Oesoedd. Wedi ei wylio nes cilio ohono, sibrydodd Bonnard yn dyner:
"Rhyw ddiwrnod, Llio, mi ddowch i ffwrdd hefo mi, ag mi arhoswch hefo-mi am byth."
"O gwna, ond nid yrŵan; fedra-i ddim dwad i ffwrdd hefo chi yrŵan."
Ni allai hyd yn oed cariad Bonnard symud dim arni yn hyn o beth. Ail-ddechreuodd yntau gwestiyno:
"Ond rydech-chi wedi bod yma'n hir, Llio? "
"Wn-i ddim; mae-o'n edrych yn hir iawn."