enw ar ei gwefus findlos hi. "Rydw-i am ddeud wrthoch-chi rŵan. Mae'r tylluanod yn gwybod, ag mae'r meirw'n gwybod, ond neb arall."
"Yn gwybod be, 'y mhlentyn-i?" Rhedodd ias oer drosto wrth glywed ei geiriau dieithr; sut y gallai ei bywyd ieuanc, cynnes, hi ddal cymundeb a'r pethau annaearol a gyniweiriai drwy'r lle ofnadwy hwn?
"Yn gwybod i fod-o wedi gwneud drwg mawr—pechod ofnadwy," ebr hi, ac amrantau a chanhwyllau ei llygaid yn lledu gan ofn.
Saethodd syniad erchyll drwy fynwes Bonnard fel ergyd cyllell, a theimlai oerni rhew yng nghraidd ei galon; gwelwodd ei wefusau, a glynodd ei dafod wrth daflod ei safn. Am foment, ni fedrai dorri gair; y foment nesaf, plygodd at wyneb yr eneth, ac meddai, mewn llais crug, annaturiol:
"Be ydi enw ych tad? Atebwch-fi!"
"Wn-i ddim, dydw-i ddim yn cofio," ebr hithau dan grynu. "O, Ivor," ag ochenaid, "peidiwch ag edrych arna-i fel yna, mae arna-i ofn."
Edifarhaodd yntau anghofio ohono ei hun, a gwasgodd hi'n dyner ato.
"Fy Llio deg-i, peidiwch â meddwl mod-i wedi digio wrthoch-chi. Ond, dywedwch i mi, petasech-chi'n clywed i enw-o, fuasech-chi'n i gofio-fo?
Petrusodd yr eneth am ysbaid; yna dywedodd yn araf: "Rydw-i'n meddwl y buaswn-i."
Penderfynodd yntau chwilio a phrofi ei chof yn drwyadl.
"Ai John Williams ydi-o?"
Ysgydwodd Llio ei phen. "Nage," ebr hi.