Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/79

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ai Llywelyn Bowen?"

"Nage."

Ai James Carman?"

"Nage . . ."

"Ai Ryder Crutch?"

Wrth glywed yr enw hwn, cyffrôdd drwyddi, a gwasgodd ei thalcen â'i llaw. "Ie, ie," ebr hi yn awchus, "dyna'i enw-o, Ryder Crutch."

Fflachiodd tân dieithr yn llygaid Bonnard; rhuthrodd ei waed fel ton ruddgoch dros ei wyneb; a chiliodd yr un mor sydyn, nes ei adael mor welw â marwolaeth.

"Ryder Crutch! y nefoedd fawr! Mae-o yma, a dyma'i blentyn-o," murmurai rhwng ei ddannedd wrtho'i hun. Gwthiodd yr eneth oddi wrtho, heb wybod yn iawn beth yr oedd yn ei wneud. Cododd ar ei draed, croesodd yr ystafell, ac ymollyngodd i gadair mewn hanner llewyg o nwyd. Yma, yma," llefai, gan grafu'r llawr â'i sawdl, fel petai'n ceisio mathru a llethu rhyw ymlusgiad aflan, "yma, a'i fywyd yn fy llaw? Ond y mae'r gyfrinach ganddo, a fedra-i ddim cael fy nial ar unwaith. Ond, O Dduw, ei blentyn!' A minnau'n ei charu! Mi rwygaf y cariad allan o'm mynwes, pe torrwn fy nghalon wrth wneud; mi a'i rhwygaf allan, ag mi a'i sathraf o dan fy nhraed! Disgynnodd ei lygaid ar Llio; yr oedd hi wedi cilio rhagddo, ac yn sefyll yn erbyn y mur gyferbyn, ei dwylaw'n dynn ar ei mynwes, a'i hwyneb mor welw ag angau. Gwelodd y fath ing a phoen gwyllt yn nyfnder ei llygaid, a thros ei hwyneb, ag a liniarodd nwyd ei galon. Diniwed oedd hi, beth bynnag, ac adfydus iawn. Yr oedd yn ei garu, ac yn ymddiried ynddo.