Mewn modd rhyfedd. Yr oedd gan Silyn gyfaill o Roegwr, o'r enw P. G. Paliatseas, yn gyd-fyfyriwr ag ef ym Mangor, a cheir llythyrau oddi wrth hwnnw ymhlith ei bapurau. Digwyddais un diwrnod edrych drwy Restr Tanysgrifwyr Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill, a gwelais mai Photios G. Paliatseas oedd ei enw yn honno.
Pan gyhoeddodd Silyn Y Bugail Geifr yn llyfr, fe'i diwygiodd yn drwyadl, ac nid oes amheuaeth na fuasai wedi rhoddi Llio Plas y Nos drwy'r un driniaeth pe cawsai fyw i'w hail-gyhoeddi. Nid oeddwn yn teimlo bod gennyf i hawl i gymryd yr un rhyddid ar y stori ag a gymerasai'r awdur ei hun. Mi ddiwygiais yr orgraff i ddygymod â safonau Pwyllgor yr Orgraff 1928, a newidiais rai pethau eraill lle y teimlwn yn sicr y buasai Silyn ei hun yn cymeradwyo hynny. Ond dyna'r cwbl.
Trwy ganiatâd Mrs. Silyn Roberts y cyhoeddir y stori, debyg iawn. Diolch iddi am ei chaniatâd, ond y diolch gorau a gaiff fydd gweld un arall o weithiau Silyn wedi ei gyhoeddi'n llyfr, ac wedi ei roddi yn nwylo'r werin-bobl a garodd mor fawr.