Morgan fyddai dweud y cyfan wrtho, er mwyn i'w gyfaill wybod ei holl berygl. Hwyrach, hefyd, y byddai'n dda iddo wrth help Gwynn Morgan.
Po fwyaf a welai ar Llio, agosaf oll yr ymddangosai dydd ei hadferiad, a chredai'n ddiysgog bob awr yn ei allu i edfryd ei chof iddi; byddai'n ddedwyddach yn agos at Llio, er mwyn gwylio drosti a'i hamddiffyn. Anesmwyth oedd drwy'r dydd, a hiraethai am hanner nos, fel y gallai ddychwelyd at Llio. Ofnai rhag i niwed ei goddiweddyd, ac ef ymaith; yn enwedig pan gofiai debyced oedd bod ymennydd Ryder Crutch hefyd wedi drysu. A phwy ond dyn wedi drysu a fuasai'n byw ym Mhlas y Nos, lle cyflawnodd ei drosedd ysgeler, ac ynghanol y golygfeydd a'i dygai i'w gof yn barhaus? Oblegid, gan na wyddai neb am ei drosedd, gallai rodio lle y mynnai heb gysgod perygl.
Llwydai gorwel y dwyrain ar gyfer toriad gwawr, pan fedrodd Bonnard ddweud ffarwel wrth Llio, ac addaw dychwelyd gyda'r nos.
"Mi wn-i y dewch-chi'n ôl," ebr hi, a chyda'r geiriau yn ei glustiau y gadawodd hi, ac yr ymgollodd yn y coed mawrion, tywyll, a guddiai ei ffordd i Hafod Unnos.