"Un rhyfedd braidd oedd 'y nhad-dyn prudd, yn edrych ar yr ochor dywyll bob amser, ag yn dueddol iawn i chwilio am feiau, ag amau pawb. Yn amal, mi fyddai'n sarrug a diarth, ag ar adegau dangosai eiddigedd o 'mam. Er mwyn i chosbi hi, a'i gau i hunan, a'i chau hithau, oddi wrth y byd, mi ddaeth i Blas y Nos i fyw. Gwraig lawen a bywiog oedd 'y mam, fel y rhan fwya o ferched Ffrainc; a doedd 'y nhad, druan, ddim yn i deall-hi. Mi fu o farw'n sydyn iawn o glefyd y galon, ag mi adawyd 'y mam yn unig. Yn i ewyllys, mi roddodd 'y nhad i holl eiddo i mi; ag ar f'ôl i, i 'ngwarcheidwad, a'i gyfaill yntau, Ryder Crutch, gŵr roedd 'y nhad yn ymddiried yn llwyr ynddo. Ond nid felly 'y mam. Wedi marw 'nhad, mi ddoth Crutch ar unwaith i Blas y Nos, ag mi casaodd 'mam o yn waeth nag erioed. Roedd-hi'n teimlo'n argyhoeddedig mai drwg oedd-o'n fwriadu i mi; ag am hynny, mi f'anfon- odd-i i ffwrdd yn ddirgelaidd i Ffrainc, dan ofal Marie, ei morwyn Ffrengig, at gyfreithiwr o'r enw Chretien, oedd yn gweinyddu stad fechan o'r eiddo hi yn Gasconi. Anfonodd lythyr at hwnnw i ddeud yn fyr i bod-hi'n i apwyntio fo'n warcheidwad imi, ag yn trosglwyddo'r stad i f'enw i. Ag yno, felly, y magwyd fi, dan ofal yr hen Chretien lawen a doniol. Meiddiodd Crutch garu 'mam, a gofyn iddi ddyfod yn wraig iddo. Mi gwrthododd hithau-o mewn dychryn ag arswyd; ag er i bod-hi'n wan ag ofnus, roedd ganddi ewyllys anhyblyg. Wrth weld 'y mam yn gwrthod gwrando arno, er gwaetha teg a garw, gwên a bygwth, mi carcharoddhi yn un o'r ystafelloedd i'w newynu i ufudd-dod; ond mi fethodd yn i amcan. O'r diwedd, un noson, wedi
Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/84
Prawfddarllenwyd y dudalen hon