wybod bod ei benderfyniad mor ddisigl â Chadair Idris; am hynny, fe dawodd. Ond dyfal obeithiai y digwyddai rhywbeth a'i gwnâi'n amhosibl i Bonnard dywallt gwaed, nid am y dymunai arbed y llofrudd, ond am fod ei bryder ynghylch diogelwch a dedwyddwch ei gyfaill yn fawr.
"Mae'n ymddangos i mi," eb ef, "fod rhyw fath o wallgofrwydd ar yr adyn Crutch yna. Heb hynny, sut y medrai-o fyw ar y llecyn lle cyflawnodd-o'r llofruddiaeth—ag mewn mangre fuasai'n gyrru rhyw ddyn cyffredin yn wallgo mewn wythnos?
"Am 'y mod-i'n ofni hynny," atebodd Bonnard, yr ydw-i'n teimlo mor anfodlon gadael Llio ar i phen i hun hefo-fo. Y tebyg ydi i bod-hi mewn peryg bob awr, achos choelia-i ddim am foment y buasai'r anfad-ddyn yn petruso cymryd i bywyd hithau petasai-fo'n meddwl i bod-hi'n sefyll rhyngddo a diogelwch. Rydech-chi'n ymddiried yno-i, on'd ydech-chi, Gwynn?
"Yn ymddiried ynoch-chi? Ar gwestiwn anrhydedd, Ivor, rydw-i'n ymddiried ynoch-chi i'r pen draw.
Nid peryg ych anrhydedd-chi sy'n 'y mhoeni-i, ond ych dedwyddwch."
Daeth ychydig wrid i wyneb llwyd Bonnard, a gloywodd golau tyner yn ei lygaid.
Mae hynny yn y glorian eisoes, Gwynn, er gwell neu er gwaeth, os arbedir hi. Ond O! pan ddychwel i rheswm, a hithau yn 'y ngharu-i wedyn, a'm llaw innau wedi agor agendor waedlyd rhyngom-ni a'n gilydd—ond feiddia-i ddim meddwl am y fath beth. Rhaid bod rhyw ffordd o'r tywyllwch. Wedi i nabod-hi, fedra-i mo'i rhoi-hi i fyny heb ymdrech ofnadwy; a