LLIO PLAS Y NOS
1
Y DIEITHRIAID
Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon;
Weithiau i'r môr, ac weithiau i'r mynydd,
A dod adref yn ddigerydd.
Araf ddringai cysgodion trymion y nos ar hyd llethrau creigiog geirwon mynyddoedd Arfon, gan adael gwaelod Dyffryn Llifon mewn gwyllnos prudd. Bu'r dyffryn hwn amser maith yn ôl yn un o fannau prydferthaf Gogledd Cymru, ond yr adeg honno nid llawer o bobl a fu'n gweled ei harddwch. Ychydig deuluoedd gwledig yn byw ar log y diadelloedd defaid yn niniweidrwydd a distawrwydd y mynyddoedd mawr oedd ei breswylwyr. Ond, er symled a thaweled bywyd felly, nid oedd heb wybod am chwerthin ac wylo, llawenhau a thristáu. A phe câi ysbrydion y gorffennol yng nghilfachau'r nentydd gennad i siarad, caem glywed ganddynt gathlau beirdd ebargofiant a ganai gynt am fod tristwch melys serch yn chwyddo ac yn clwyfo'r fron, a dagrau gobaith chwerw'r bedd yn rhedeg dros y rudd. Eithr mud yw'r gorffennol dros amser, ac erys ei ramant fwyaf gwir heb ei datguddio.