mae arna-i ofn y bydda 'ngadael innau'n sicir o'i lladd hithau. Mae hi'n fyw o deimlad, ag yn 'y ngharu-i â'i holl galon. Welais-i erioed ferch o natur mor swynol â hi; a rhaid imi, os galla-i, wneud i bywyd-hi'n ddedwydd."
Cyn hir wedi'r ymddiddan uchod, ymadawodd Bonnard am y pentref cyfagos i brynu ychydig bethau y byddai raid iddo wrthynt, am ei fod yn bwriadu aros beth amser ym Mhlas y Nos. Ac nid oedd amser i'w golli i bwrcasu'r pethau cyn y nos, er mwyn cael popeth yn barod i gychwyn ar y daith, cyn gynted ag y disgynnai'r nos dros y mynyddoedd.
Parhaodd Gwynn Morgan yn eistedd wrth y ffenestr; llawn oedd ei fyfyrdod o bosibilrwydd y dyfodol. Gwelai safle dywyll ei gyfaill; galwai llef gwaed ei fam arno o'r ddaear i ddial ei hangau creulon drwy ladd tad y ferch a garai, y ferch yr oedd ei bywyd erbyn hyn yn rhan mor bwysig o'i fywyd yntau.