drws, heb sŵn nac oddi mewn nac oddi allan. Cerddasai Bonnard mor ddistaw ac mor ysgafn â chath. Edrychodd o'i gylch am le i ymguddio, pe deuai galw, a gwelodd yn sefyll wrth y mur lurig rhyfelwr o'r hen amserau gynt, digon mawr i guddio cawr o'i mewn. Ciliodd tu ôl iddi i wylio; a phenderfynodd aros yno'n ddistaw, mor amyneddgar ag yr erys y pwma am ei ysglyfaeth.
Aeth awr heibio, ond ni ddaeth neb o'r ystafell; aeth dwy a thair awr heibio, ond nid oedd trwst yn y lle. Meddyliodd Bonnard fod yn rhaid bod y wawr yn torri bellach, ond ni thorrai gwawr byth o fewn Plas y Nos, am fod caeadau ar yr holl ffenestri. Ust! Dyna drwst y tu arall i ddrws yr ystafell-trwst camau eiddil, araf a thrwm. Curai calon Bonnard yn gyflymach, a llithrodd ei law yn reddfol at ei lawddryll. Dyna'r drws yn agor yn araf, a golau gwan cannwyll yn llewychu drwyddo i'r fynedfa heibio i'r siwt lurig a guddiai berson Bonnard. Tu ôl i'r golau deuai corff y neb a'i cariai i'r golwg. Ai dyma Ryder Crutch? Hen greadur cul, gwargam, a hagr, tebycach i ryw ddrychiolaeth ddybryd nag i fod dynol. Ond, yn sicr ddigon, ar gig a gwaed, ac nid ar gysgod disylwedd, y gorffwysai trem ffyrnigwyllt Bonnard. Murmurai'r hen greadur wrtho'i hun, fel y llusgai'r naill droed heibio i'r llall; cariai'r gannwyll yn gam; a dangosai ei holl ystum, yn ogystal a'r llygaid a oedd wedi hanner sefyll yn ei ben, fod diod gadarn wedi hanner ei ddrysu. Dan ei dylanwad hi, anghofiodd y llofrudd, dros amser, y gwaed a dywalltasai; a rhoes iddo fath o wroldeb gau i wynebu dychryniadau cydwybod, a melltigaid atgofion Plas y Nos.