daeth ei diniweidrwydd plentynnaidd yn ôl. Eisteddodd y ddau wrth y bwrdd, a bwytasant eu bara ac yfed y te. Ac erbyn hyn, edrychai Llio mor ddedwydd ag aderyn; er hynny, arhosai rhyw gymaint o'r gwylder benywaidd heb lwyr ddiflannu. A aned merch erioed yn hollol analluog i sugno pleser iddi ei hun wrth helpu dyn? A aned dyn na fynnai yn ei galon gael ei fwytho ganddi?
Gwedi borebryd, dywedodd Llio yn ei dull denol ei hun:
"Rŵan, mi wnewch drio cysgu. Rydech-chi wedi blino."
Gwenai yntau wrth ei chlywed yn siarad felly ag ef, fel pedfai ef yn blentyn ac arno angen ei thynerwch na ŵyr ond serch amdano. Beth ond tynerwch serch a fedrai liniaru'r fflam angerddol a chreulon yn ei galon?
"Mi wna'-i unrhyw beth i'ch plesio-chi, ngeneth bach-i. Ond be ydych chi am wneud?"
"O, mae gen i lyfr i'w ddarllen. Rydw-i wedi gweld llawer o hen lyfrau rhyfedd yn y tŷ yma, ag mi fyddai'n cael pleser dros ben wrth i darllen-nhw. Mi eistedda i i ddarllen; ac felly mi gewch lonydd i gysgu."
"Rhaid ichi eistedd wrth f'ymyl i, ynteu; mae digon o le i ddau neu dri ar y gadair fawr yma.'
Math o sedd â breichiau iddi, neu ryw fath o beth rhwng cadair freichiau a soffa, oedd y dodrefnyn yr eisteddai Bonnard arno; un cysurus iawn i gornel wrth y tân.
"'Dall paradwys ddim curo hyn!" eb ef.
"Ond rhaid ichi gysgu," ebr hithau, dan wenu.
"Mi dria i, os dyna orchymyn yr orsedd."