Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/99

Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, caewch ych llygaid, ynteu."

Gwnaeth yntau hynny, ond nid arhosai'r llygaid ynghaead yn hir. Rhaid oedd iddynt gael ymsefydlu ar wyneb tlws Llio. Cyn hir, canfu hithau hynny, ac ebr hi mewn tôn geryddol:

"Sut y medra-i wneud ichi fod yn ufudd?"

"Fel hyn," atebodd yntau, a thynnodd ei phen i orffwys ar ei ysgwydd; ac yr ydoedd yn flin mewn gwirionedd, a buan iawn y syrthiodd trymgwsg arno.

Llio, hithau, yn ofni symud rhag ei ddeffro, a syrthiodd i gwsg ei hunan. Profiad hollol newydd i Bonnard ydoedd hwn; ni wyddai ef o'r blaen fod bywyd yn cynnwys dim mor gysegredig a diniwed. Tynerach a dedwyddach oedd ei gwsg am fod Llio agosed ato. Y mae i bob ysbryd fath o awyrgylch o'r eiddo'i hunan, ac y mae dyfod i awyr ambell fywyd yn lleddfu poen, ac yn lliniaru aflonyddwch calon.

Rhaid bod yr haul wedi teithio mwy na hanner y ffordd i orwel y gorllewin cyn i'r un o'r ddau ddeffro. Bonnard a ddeffrôdd yn gyntaf; a'r peth cyntaf y disgynnodd ei olygon arno oedd wyneb tlws Llio ynghwsg o'i flaen; ei hamrantau fel llenni llaesion dros harddwch ei llygaid, ei gwefusau lluniaidd yn hanner agored, a thaweled oedd fel mai o'r braidd y gwelai ei hanadl yn chwyddo'i mynwes. Mor ddwyfol brydferth a chysegredig i lygad y neb a'i câr yw wyneb merch ynghwsg. Addolgar oedd teimlad Bonnard wrth syllu ar Llio. A allai alltudio'r wyneb hwn oddi ar ei fynwes? A gwthio'r diniweidrwydd gwyn a lanwai ei bywyd allan o'i fywyd am byth? A allai yfed dedwyddwch i'w waelodion, a tharo'r cwpan a'i cynhwysai yn