Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/120

Gwirwyd y dudalen hon

Mewn Mynwent yn ABERTAWE.

Er rhoi ei gorph i orphwys,
Ddyn hawddgar, i'r ddaear ddwys;
Cwyd ei lwch o'r llwch lle trig,
Llygradwy'n anllygredig;
Cadarn gorn neu udgorn nef
Ar ei ddeiliad ry' ddolef;
Codant pan glywant, yn glau,
A dringant o dir angau;
Ac yna bydd gogoniant,
Un argraph seraph a sant.
—Thos. Hughes, Lerpwl.




Yn Mynwent FFESTINIOG, Meirion.

Pechadur, ammur a omedd—o'i fodd
Feddwl am ei ddiwedd;
Mae naturiaeth, mewn taeredd,
Yn erfyn byw ar fin bedd.

Am ras hoff addas, mae ffydd—i'm henaid,
Mae hyn yn llawenydd;
Mae'n dda odiaeth, mae'n ddedwydd,
Mai 'Mhrynwr yn Farnwr fydd.
—Sion Lleyn.




Yn Mynwent yr EGLWYS WEN, Dinbych.

Ar Iawn ei Iesu gorphwysodd,—a'i waed
Dwyfol ef a'i golchodd;
A Duw Iago a'i dygodd
I fyd fydd byth wrth ei fodd.




Yn Mynwent yr EGLWYS WEN, Dinbych.

Ar ei daith i'r fro daethai,—yn foddus,
Gan feddwl dychwelai
Yn ol; ond byth ni wnaethai,
Yma'i clöed dan rwymau clai.

Cariadus, cu ei rodiad,―addefir,
Oedd Evan yn wastad;
Un ffyddlon, o fron ddi-frad,
Ac addas ei ymarweddiad.