Y PARCH. JOHN EVANS, Maendy.
Dirodres, cynhes, frawd cu—oedd Evans,
Hawdd hefyd ei garu;
A'i iaith bert a'i ddawn ffraeth, bu
Drwy ei oes o du'r Iesu.
—Carnelian.
Y PARCH. WILLIAM GRIFFITH.
Credadyn llawn cariad ydoedd—o reddf,
Gŵr aeddfed i'r nefoedd ;
Athraw od ei weithredoedd,
A gŵr Duw iach ei grêd oedd.
—Cynddelw.
Y PARCH. WILLIAM HUGHES, Saron.
Gweinidog gyda'r Annibynwyr, yr hwn oedd yn hynod am ei ddawn gerddorol; yn Mynwent Llanwnda, Arfon.
Hen bererin berorodd—fawl Iesu
Yn flasus, tra gallodd;
A gweinidog na oedodd,
Weithio i'w Feistr wrth ei fodd.
—Eben Fardd.
Y PARCH. ROWLAND HUGHES
Gweinidog gyda'r Wesleyaid, yn Mynwent yr Eglwys Wen, Dinbych.
Cofia na chuddia'r ceufedd—athrylith
Rowland Hughes na'i fawredd ;
Er mor chwerw oedd bwrw i'r bedd
Aur enau y gwirionedd.