Y PARCH. HUGH OWEN, O Fronyclydwr.
Yn Mynwent Llanegryn, Meirion; bu farw y 15fed o Fawrth, 1699.
Y Cymro anwyl, edrych yma
Ar fy medd a dwys ystyria,
Fel yr wyt ti y bum innau,
Fel yr wyf fi y byddi dithau;
Gan nad wyf mwy i bregethu,
O'm bedd mynwn wneuthur hyny;
O! cred yn Nghrist a bydd grefyddol,
Casa bob drwg a bydd fyw'n dduwiol.
Y PARCH. DAVID RICHARDS, (Dewi Silin),
Vicar Llansilin.
Dithau, iach hoyw ymdeithydd,
Rhyw forau fel finau fydd :
Mi gefais bob ymgyfarch
Gan y byd, ac enw o barch;
Ond dim! dim! yw im' yma,
Llwydd, clod, câr, daear, a da:—
Yr hyn fu'm i'r Ior yn fyw
Yw oll sydd yn lles heddyw.
Cofia'r bedd sy'n dy aros,
Ac ymaith i dy daith dôs.
—Alun.
Y PARCH. RICHARD JONES, Trawsfynydd.
(Yn Mynwent Trawsfynydd, Meirion.)
Isod mae'r cymwynasydd—cywiraf,
Ac oracl Trawsfynydd;
Ei hoff fardd, a'i hyfforddydd,
A'i hawddgar hen feddyg rhydd.
Rhisiart gyhoeddai Iesu―yn Geidwad
Gyda sel a gallu;
Fel sant gwir ca'i hir garu,
Ei holl oes faith er lles fu.
— I. M.