Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

MR. ROBERT OWEN, Llanrwst.

(Pregethwr gyda'r Trefnyddion.)

Gŵr i Dduw, gwir weddiwr,—diameu,
Roed yma'n y pentwr;
Llafurus fel llefarwr,
Fu yn ei oes, gyfiawn ŵr.
—Caledfryn.

Y PARCH. RICHARD HUMPHREYS, o'r Dyffryn.

(Yn Mynwent Capel y M.C., Dyffryn Ardudwy.)

Yma y claddwyd Y PARCH. RICHARD HUMPHREYS, o'r Dyffryn. Bu farw Chwefror 15fed, 1863, yn 72 ml. oed; wedi gwasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab am 43ain o flynyddau. Yr oedd hynawsedd ei dymher, ei synwyr cryf, a'i arabedd, yn tynu sylw pob gradd ato, ac yn enill iddo gymeradwyaeth gyffredinol fel dyn; ac yr oedd ffyddlondeb a chywirdeb tryloyw ei fywyd gweinidogaethol yn enill iddo y radd o ŵr Duw, a gweinidog cymhwys y Testament Newydd, yn nghydwybodau pawb a'i hadwaenent. Efe a fu ar hyd ei oes yn fab tangnefedd; a gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd; ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch. "Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi Air Duw: ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."

Y PARCH. WILLIAM ROBERTS, Amlwch.

(Yn Mynwent Amlwch, Môn.)

Yma y gorwedd yr hyn sydd farwol o'r PARCH. WILLIAM ROBERTS, Amlwch, yr hwn a fu farw Gorphenaf 19eg, 1864, yn 80 mlwydd oed, ar ol bod yn pregethu yr