Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/30

Gwirwyd y dudalen hon

Y PARCH. JOHN HUGHES, Le'rpwl.

Mae ef wedi marw! a gwyn fyd y dynion
Sy'n gallu galaru wrth fedd y fath un:
Fe hunodd, ond p'le ?—ar ben mynydd Seion,
Cymylau y nefoedd guddiasant ei lun.
Mae cofion am dano fel awel odd'yno,
Yn llawn o arogledd yr amaranth byw:
A gwyn fyd y galon sy'n hoffi adgofio
Ei lais gyda dynion ei lin gyda Duw!
—Ceiriog.




Y PARCH. JOHN WYNNE, Llwyner.

(Yn Mynwent Rhydycilwyn, Dyffryn Clwyd.)

Er Coffadwriaeth am y diweddar BARCH. JOHN WYNNE, o'r Llwyner. Bu farw Awst 28ain, 1870, yn 78 ml. oed. Bu yn weinidog yr Efengyl yn Nghyfundeb y Methodistiaid am 49 mlynedd. Meddai gôf cryf, dychymyg fywiog, tymher siriol, a meddwl penderfynol. Bu ddihafal yn ei lafur, a difwlch yn ei ffyddlondeb gydag achos Iesu Grist yn ei holl ranau. Ymdrechodd ymdrech dêg, gorphenodd ei yrfa, cadwodd y ffydd. Trwy ei ffyddlondeb sicrhaodd iddo ei hun le mawr yn marn yr Eglwys a'r byd. Cafodd farw mewn tangnefedd, a bydd iddo lawer yn goron yn nydd Crist.



Y PARCH. JOHN ROBERTS, O Langwm.

(Yn Mynwent y Plwyf, Llangwm.)

Y PARCH. JOHN ROBERTS, Cefnane, Llangwm, yr hwn a fu 55 o flynyddoedd yn bregethwr yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Bu farw Tachwedd 3ydd, 1834, yn 82 mlwydd oed Ymunodd â'r Gymdeithas Eg lwysig uchod yn 16 oed Arddelodd Grist 66 o flynyddoedd. Fel aelod Eglwysig, yr oedd yn addurn i grefydd. Fel Pregethwr, yr oedd ei athrawiaeth yn