Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/43

Gwirwyd y dudalen hon

CAPT. WM. PARRY, Waen, Morfa Nefyn.

Ow! Parry, deilwng fardd pêr y dalaeth,
O'i fri mawr alwyd i fro marwolaeth:—
Oedd ddyn nodedig caredig odiaeth,
A mawr ei addysg yn nhrefn Moryddiaeth;
A'i fynwes dirion mewn dwfn ystyriaeth
Gywir adwaenai Dduw ei grediniaeth;
Ei hoff rîn, a'i ddoniau ffraeth—fawrygir,
A'i fedd anwylir tra'n fyw dynoliaeth.
—Ioan Madog.




ROBIN DDU O FÔN.

(Bu farw y 27ain o Chwefror, 1785, yn 41 mlwydd oed;
ac a gladdwyd yn Llangefni, Môn.)

Wele ddaearle ddu oerlaith,—Prydydd
Parodol ei araith;
Hunodd cynhalydd heniaith,
Gwenydd fwyn bro Gwynedd faith.

Cofiwn bawb am y ceufedd,—a'n bwriad
Yn barod i orwedd;
Rhaid in' ryw bryd yn gydwedd,
Gamp oer bwys, gwympo i'r bedd.




CHARLES SAUNDERSON.

(Ar feddgist y teulu, yn Mynwent Llanycil, Meirion.
Bu farw yn yr America, Hydref 24, 1832, yn 23 ml. oed.)

Gŵr ieuanc o gywir awen—anfonwyd
I fynwes ddaearen;
O sylw byd yn isel ben,
Byr ddyddiwyd y bardd addien.
—Bardd Nantylyn.

Yn naear Orleans newydd yr hûn
Yr enwog fardd celfydd;
O fynwes gwlad Feirionydd
Yno yr aeth yn ŵr rhydd.
—Gutyn Peris.