BARDD DU MÔN.
Fe roddwyd ym medd Fardd Du Môn,—llenor
Llawn o bethau ceinion;
Mae'n enw a saif mewn iawn sôn
Tra Menai tu a'r minion.
Nid craig fawr, nid carreg fedd,—namyn cân
Yw maen côf ei fawredd;
Dywed awen, hyd y diwedd,
Ei fodd, a'i lun, a'i feddwl wedd.
—Eben Fardd.
ELLIS OWEN, Cefnymeusydd.
Diweddai harddwch, a dedwydd hirddydd
Y cyfiawn moesawl Fardd Cefnymeusydd;
I'n iaith a'i hurddas bu'n addas noddydd
Yn ysbryd hynaws ei bert awenydd;
Rho'i wledd a chroesaw—bu'n llaw a llywydd
O fawr da fwyniant i feirdd Eifionydd;
Ffrwyth ei ddawn faethlawn a fydd—arosawl,
A’i fawl yn fythawl fel Hynafiaethydd.
—Ioan Madog.
IOAN DYFRDWY.
(Yn Mynwent Llanycil, Meirion. Bu farw Mehefin 17eg. 1852,
yn 20 mlwydd oed.)
Perchen yr awen wiw rydd—oedd Ioan,
Oedd ddiwyd efrydydd:
Eginyn cryf ei gynnydd,
Huna ar daith hanner dydd.
Blodau heirdd, a beirdd heb us,—yr awel,
A'r ywen bruddglwyfus,
Addolent yn dorf ddilys
Enw ei lwch ger Beuno Lys.
Diau hynotach daw Ioan eto,
Yn ŵr heb anaf o hen âr Beuno;
Yn derydd esgyn, wedi ei hardd wisgo
A mawredd Salem, i urddas eilio
Cerdd i'w frawd, 'nol cyrhaedd y fro—uwch angen,
A'i bêr ddawn addien, heb arwydd heneiddio.