Tudalen:Lloffion o'r Mynwentydd.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

Ai yma huna y pen Emynydd,
Swynai â'i fwyniant holl Seion fynydd?
Ah! pwy a lunia gôf—faen ysplenydd,
O'r penaf fynor i'r prif Awenydd!
Na! 'i Awen fwyn ei hun fydd—y gôfeb
Oreu ar wyneb y pêr Eifionydd.
—E. Jones.




GUTYN PERIS.

(Yn Mynwent Llandegai, Arfon.)

Dyma fedd Griffith Williams, neu GUTYN PERIS, un o Brif feirdd ei oes; godidog
mewn doniau, a chlodadwy ei arferiad o honynt. Tuagat ei gyd-frodyr
awenyddol, un diymffrost a digenfigen oedd—parod o'i gynghor a'i
hyfforddiad; yn ei ddyledswyddau teuluaidd a chymydogol, diwyd a
chymwynasgar. Hyny a fu yn marn dyn. Pa fath ydoedd yn marn Duw, ceir
gweled ar ddydd mawr y cyfrif.

Os gwyrodd, mewn ysgariaeth,—y Prif-fardd,
Lle prawf lygredigaeth;
Mae'r enaid heb amrywiaeth
Yn mro y nef, nid marw wnaeth.

Duw a arch ei dywarchen,—i Gruffydd
A'i gorph o'r ddaearen,
I'w foli byth, fywiol Ben,
A'i weled heb un niwlen.

I Beris awen barod—a roddwyd,
O roddau nef uchod;
Di fai ei waith, a defod,
Llona Bardd, heb well yn bod.

Tra Llen, ac Awen, Cywydd,—ac Odlau,
Ac adlais Datgenydd;
Tra'r Gymreigiaith berffaith bydd,
Gwladwr hoff, glôd i Ruffydd