GORONWY OWEN.
(Ar y TABLET, yn Eglwys Gadeiriol Bangor.)
Tra haul mwyn yn dwyn gwên dydd,—ac enaid
I gwyno ing prydydd;
Yn haeddu'i barchu bydd
Goronwy Gawr Awenydd.
Gwaith ei gerdd yn goeth a gawn, −brif orchest,
Brawf archwaeth synwyrlawn;
Ei gofio haeddai'n gyfiawn,
Arwr dysg ac eryr dawn.
—Nicander
IEUAN GWYNEDD.
(Yn Mynwent Groeswen, Morganwg.)
Y golofn yma gyhoedda haeddiant
Ieuan Gwynedd, i'w wlad fu'n ogoniant;
Haul oedd i'r Genedl, miloedd a gwynant,
Ai'n nos o'i golli—tewi nis gallant;
Llanwodd swydd Llenydd a Sant,—sa'i weithiau
Ef i'r ôl oesau yn ddirfawr lesiant.
—G. Hiraethog.
MR. OWEN JONES HUGHES, (Cynfarwy.)
A fu farw Awst 5ed, 1865, ac a gladdwyd yn Llanerchymedd.
Os y tir hwn sy'n toi rhinwedd—a llwch
Y dyn llawn arabedd,
Cynfarwy, cawn ei fawredd
A'i wir barch yn herio bedd.
—Ioan Machno.
Ewyllysgar mewn llesgedd—ydoedd ef,
Dedwydd iawn ei ddiwedd;
Gwenai pan newidia'i wedd
Yn oer afael hûn rhyfedd.
—Llwydryn Hwfa.