Tudalen:Llofruddiaeth ddychrynllyd a gymerodd le yn Duke St., Aberdar, nos Wener, Tachwedd 30ain, 1866, pryd y lladdwyd un Thomas Watkins gan Benjamin Jones, Labrwr (IA wg35-2-114).pdf/3

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLOFRUDDIAETH
DDYCHRYNLLYD

A gymerodd le yn

DUKE ST., ABERDAR,

NOS WENER, TACHWEDD 30ain, 1866

Pryd y lladdwyd un

THOMAS WATKINS

Gan

BENJAMIN JONES, Labrwr,

Yr hwn sydd yn awr yn Ngharchardy Abertawy, wedi ei draddodi yno gan y Coroner ar y cyhuddind o lofruddiaeth wirfoddol, ac yn aros ei brawf yn y Brawdlys Sirol nesaf. Oddentu haner awr wedi 9 ar y nos grybwylledig, ymddengys fod y llofrudd a'r llofruddiedig wedi myned gyda'u gilydd i'r Market Tavern, ac yfed peth diod, pryd y cyfododd rhyw anghydfod rhyngddynt, ac aethant i ymladd a'u gilydd. Wedi hyny aeth Jones allan. Yn mhen ychydig aeth Watkins, y llofruddiedig, allan hefyd, pryd yr oedd Jones yn ei ddysgwyl, yr hwn a'i tarawodd yn ddisymwth a chareg ar ochr ei ben, nes y syrthiodd yn farw yn y fan.

Weithwyr caled anwyl Cymru,
Pwyllwch, rhoddwch sylw 'nawr,
Diod feddwol sydd yn 'sgubo
Llu i'r trag'wyddoldeb mawr;
O mae'r llofraddiaethau erchyll
Bron i gyd trwy'r ddiod gref;
A'r damweiniau sydd yn dygwydd
Trwy'n hardaloedd, wlad a thref!

Yn Aberdar bu tro galarus,
Oll o herwydd peth dibwys;
Enaid yrwyd draw i angeu,
Corff a roddwyd dan y gwys;
Rhuthrodd un yn anystyriol