Tudalen:Llofruddiaeth ddychrynllyd a gymerodd le yn Duke St., Aberdar, nos Wener, Tachwedd 30ain, 1866, pryd y lladdwyd un Thomas Watkins gan Benjamin Jones, Labrwr (IA wg35-2-114).pdf/4

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar y llall, a lladdodd ef,
Syrthiodd mewn rhyw fodd disymwth
Heb gael rhoddi llais na llef

Mae y llofrudd 'nawr mewn dalfa,
Caiff ei brofi'n fanol iawn;
Nid oes t'wllwch yn ei achos—
Yno cawd tystiolaeth lawn;—
Mae ei fynwes e'n frawychus,
A'i berthynasau oll yn brudd,
Am ei brawf pan y meddyliant
Pan y del y sobr ddydd.

Mae'r tafarnau'a dai cysurus,
Llawnder yno beunydd sydd:
Mac'ch tai chwi yn llwm a budron,
Gwragedd lawer sydd yn brudd;
Ewch a'ch enill adre'n ddiogel
Hyn wna loni gwraig a phlant
Sydd yn awr mewn carpiau budron,
Yn newynog, lawer cant.

Penderfynwch gyda'ch gilydd
Fynu tai cysurus, clyd;
O paham, er gweithio'n galed,
Byddwch chwi mor dlawd eich byd?
'R ych yn enill arian ddigon
I gael bwyd a dillad da,
Ac aneddau lled gysurus
I gael gorphwys gaua' a ha'.

Rhoddwch heibio'r ddiod feddwol,
A darllenwch lyfrau da;
Pechod sydd yn addaw llawer,
Ond cyflawnu byth ai wna;
Y mae wermod yn ei gwpan,
Twyllo wna yn mhob rhyw oes;
Trowch eich gwyneb am ddiangfa
At yr hwn fu ar y groes.