3 Ef i bob rhai a'i hofnant Ef,
Rhydd gyfran gref at fywyd;
Ac yn dragywydd y myn fod
Cof o'i gyfamod hefyd.
16[1] Clodforedd i Dduw.
M. S.
1 CLODFORWCH bawb ein Harglwydd Dduw,
Doed dynol-ryw i'w;
Ei hedd, fel afon fawr ddi-drai,
A gaiff ddyfrhau ei bobol.
2 Ei air a'i amod cadw wna;
Byth y parha'i ffyddlondeb,
Nes dwyn ei braidd o'u poen a'u pla,
I hyfryd dragwyddoldeb.
3 Ef ni newidia, er gweld bai
O fewn i'w rai anwyla';
Byth cofia waed Tywysog nen,
A'i boen ar ben Calfaria.
4 Pan ballo ffafor pawb a'u hedd,
Duw, o'i drugaredd odiaeth,
Yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind a fydd
Ar gyfyng ddydd marwolaeth.
17[2] Digon yn Nuw.
M. S.
1 CLODFORAF enw Brenin nef,
Mae ynddo Ef bob digon—
Digon o nerth i'm henaid gwan,
Pan fyddwyf dan drallodion.
2 Mae digon o drugaredd hael
I'r truan gwael ei gyflwr;
Digon i lenwi iawnder Duw,
A chadw'n fyw droseddwr;