3 Er gwgu arnaf uffern fawr,
Ynghyda drygau maith y llawr,
Digon i mi fydd gras fy Nuw:
Pob peth yn dda wnaeth Iesu gwiw.
4 A phan gyrhaeddaf uwch y nen
I blith cantorion nefoedd wen,
Uwch na seraffiaid seinio wna':
Fy Iesu a wnaeth bob peth yn dda.
—Casgliad Richard Phillips, Llanycil
23[1] Gweddi a Mawl
M. H.
1 ANTURIAF, Arglwydd, yr awr hon,
Yn llwch a lludw ger dy fron;
O flaen dy fainc a'th orsedd Di
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
2 Tŵr yn y nos Ti imi sydd,
Fy nghraig a'm cysgod yn y dydd
I'm cynnal: am dy ofal Di
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
3 Tylawd a noeth, gresynus wyf,
Gwan ac anghenus dan fy nghlwyf;
Mae ffynnon bywyd gyda Thi :
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
4 Mae yna dorf luosog lân,
Yn bur eu cerdd, yn bêr eu cân;
Eu mawl yn unig sydd i Ti
Gweddi a mawl sy'n gweddu i mi.
24[2] Mawl i'r Drindod.
M. H.
1 I DAD y trugareddau i gyd
Rhown foliant, holl drigolion byd;
Llu'r nef moliennwch, bawb ar gân,
Y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân.
—Thomas Ken, cyf Howel Harris