Fel tad wrth ei blant y tosturia,
Mae'n cofio mai llwch ydynt hwy;
O f'enaid, bendithia yr Arglwydd,
Bendithia yr Arglwydd byth mwy.
William Nantlais Williams (Nantlais)
'45[1] Diolch am yr Efengyl.
10. 7. 6.
1. DIOLCH i Ti, yr Hollalluog Dduw,
Am yr Efengyl sanctaidd.
Haleliwia, Amen.
2.Pan oeddym ni mewn carchar tywyll du,
Rhoist in oleuni nefol.
Haleliwia, Amen.
3. O! aed, O! aed yr hyfryd wawr ar led!
Goleued ddaear lydan!
Haleliwia, Amen.
cyf. David Charles (1762-1834)
46[2] Haleliwia.
10. 10. 10. 4.
1.Am rif y saint y sydd o'u gwaeau'n rhydd,
I ti a roes gerbron y byd eu ffydd,
Dy enw, Iesu, bendigedig fydd:
Halelwia, Halelwia!
2.Ti oedd eu craig, eu cyfnerth hwy a'u mur,
Ti, Iôr, fu'n Llywydd yn eu cad a'u cur,
Ti yn y ddunos oedd eu golau pur:
Halelwia, Halelwia!
3. O! boed i'th filwyr ffyddlon pur a drud
Ddal fel y saint, fu gynt mor ddewr eu bryd,
Nes cael fel hwythau goron aur i gyd,
Haleliwia, Haleliwia!