Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4.Fendigaid gymun! undeb dwyfol ddrud!
Ni yn ein gwendid, hwythau'n wyn eu byd;
Ac eto ynot Ti mae pawb ynghyd,
Haleliwia, Haleliwia!

5.A phan fo'r gad yn drom a'r brwydro'n hir
Daw ar y clyw gân buddugoliaeth glir,
Bydd hyder eto'n fyw a nerth yn wir:
Halelwia, Halelwia!

6.Mae'r euraid hwyr yn gloywi'n deg ei lun;
Daw, daw i'r fyddlon filwr dawel hun,
Mwyn ydyw hedd Paradwys Dduw ei Hun,
Haleliwia, Haleliwia!

7. Ond wele tyr ymlaen ddisgleiriaf ddydd,
Saint gorfoleddus yn eu rhwysg yn rhydd,
Ac Iôr Gogoniant heibio'n mynd y bydd;
Haleliwia, Haleliwia!

8. O fôr a thir er pob rhyw hir wahân,
Drwy byrth o berl daw rhif y tywod mân,
A'u cân i'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân:
Halelwia, Halelwia!

William Walsham How,. cyf. Thomas Gwynn Jones

47[1] Haleliwia i'r Oen.
11. 11. 12. 11. 12. 12.

1. Llais hyfryd rhad ras sy'n gweiddi, Dihangfa,
Yng nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa
I olchi aflendid a phechod yn hollol,
Fe redodd ei waed yn ffrydiau iachusol:
Haleliwia i'r Oen bwrcasodd ein pardwn,
'N ôl croesi Iorddonen drachefn ni a'i molwn.

2. Ar angau ac uffern cadd lawn fuddugoliaeth,
Ysbeiliodd holl allu'r tywyllwch ar unwaith;

  1. Emyn rhif 47, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930