Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Holl filwyr y groes cânt ynddo dangnefedd;
Fe'u harwain hwy'n sicir i berffaith orfoledd:
Haleliwia i'r Oen bwrcasodd ein pardwn,
'N ôl croesi Iorddonen drachefn ni a'i molwn

3.'N ôl tirio yn iach i'r tawel anheddau,
Ni a seiniwn ei glod ar euraid delynau; T
rwy'r nefol ardaloedd ni a'i molwn byth bythol,
Wrth rodio ar lennydd yr afon dragwyddol:
Haleliwia i'r Oen bwrcasodd ein pardwn,
'N ôl croesi Iorddonen drachefn ni a'i molwn

Richard Burdsall cyf. David Charles (1762-1834),

48[1] Anfarwol Fywyd lle bo Duw.
M. B. D.

1 MAE tywyll anial nos,
Peryglon o bob rhyw,
Holl ofnau'r bedd, pob meddwl gwan,
Yn ffoi o'r fan bo 'Nuw:
Ond tegwch dwyfol clir,
A chariad pur a hedd,
Gaiff fod yn wleddoedd pur di-drai
I'r rhai sy'n gweld ei wedd.

2 Lle byddych Di, fy Nuw,
Anfarwol fywyd sy,
Yn tarddu, megis dŵr o'r graig,
I'r lan i'r nefoedd fry:
Rhyw wawr ddisgleirwen sydd
Yn twnnu ohono Ef,
Yn arwain, trwy bob ffos a nant,
Holl ffyddlon blant y nef.


  1. Emyn rhif 48, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930