50[1] Dirgelion Rhagluniaeth
M. C.
1.TRWY ddirgel ffyrdd mae'r uchel Iôr
Yn dwyn ei waith i ben;
Ei lwybrau Ef sydd yn y môr,
Marchoga wynt y nen.
2.Ynghudd mewn dwfn fwngloddiau pur
Doethineb wir ddi-wall,
Trysori mae fwriadau clir—
Cyflawnir hwy'n ddi-ball.
3.Y saint un niwed byth ni chânt,
Cymylau dua'r nen
Sy'n llawn trugaredd, glawio wnânt
Fendithion ar eu pen.
4.Na farna Dduw â'th reswm noeth,
Cred ei addewid rad;
Tu cefn i len rhagluniaeth ddoeth
Mae'n cuddio ŵyneb Tad.
5.Bwriadau dyfnion arfaeth gras
Ar fyr aeddfeda'n llawn:
Gall fod y blodau'n chwerw eu blas,
Ond melys fydd y grawn.
6.Ond gŵyro mae dychymyg dyn,
Heb gymorth dwyfol ffydd;
Gadawn i Dduw ei 'sbonio'i Hun—
Efe dry'r nos yn ddydd.
William Cowper, cyf. Lewis Edwards
51[2] Duw yn Noddfa a Nerth.
M. C.
1.MEWN cyfyngderau bydd yn Dduw,
Nid wyf ond gwyw a gwan;
Nid oes ond gallu mawr y nen
A ddeil fy mhen i'r lan.