Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

6.Dwg amser, fel llifeiriant cry',
Ei blant i gyd i lawr;
Ehedant ymaith fel y ffy
Y breuddwyd gyda'r wawr.

6.O! Dduw, ein nerth mewn oesoedd fu,
Ein gobaith am a ddaw,
Bydd inni yma'n noddfa gu,
A chartref bythol draw.


Isaac Watts, cyf. William Owen Evans

53[1] SALM VIII. 1, 3, 4, 5, 6, 9.
M.S.

1.O! ARGLWYDD, ein Iôr ni a'n nerth,
Mor brydferth wyt trwy'r hollfyd!
Dy enw a'th barch a roist uwchben
Daear ac ŵybren hefyd.

2.Wrth edrych ar y nefoedd faith,
A gweled gwaith dy fysedd,
Y lloer, y sêr, a threfn y rhod,
A'u gosod mor gyfannedd,

3.Pa beth yw dyn it i'w goffáu,
O ddoniau ac anwylfraint?
A pheth yw mab dyn yr un wedd,
Lle rhoi ymgeledd cymaint?

4.Ti wnaethost ddyn o faint a phris
Ychydig is angylion:
Mewn mawr ogoniant, parch a nerth,
Rhoist arno brydferth goron.

5.Ar waith dy ddwylaw is y nef
Y gwnaethost ef yn bennaeth:
Gan osod popeth dan ei draed,
Iddo y gwnaed llywodraeth.


  1. Emyn rhif 53, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930