6.O! Arglwydd, ein Iôr ni a'n nerth,
Mor brydferth wyt trwy'r hollfyd!
Dy enw a'th barch a roist uwchben
Daear ac wybren hefyd.
Edmwnd Prys
54[1] SALM LXII. 7, 8, 11, 12.
M. S.
1.YN Nuw yn unig mae i gyd
Fy iechyd a'm gogoniant:
Fy nghraig yw, a'm cadernid maith,
A'm gobaith yn ddilysiant.
2.Gobeithiwch ynddo, ger ei fron
Tywelltwch galon berffaith;
Ac ymddiriedwch tra foch byw,
A dwedwch, Duw yw'n gobaith.
3.Duw a lefarodd hyn un waith,
Mi glywais ddwywaith hynny,
Sef, mai Duw biau'r nerth i gyd,
Gostyngiad byd, neu ffynnu.
4.O! Arglwydd, hefyd Ti a fedd
Drugaredd a daioni;
I bawb dan gwmpas ŵybren faith
Yn ôl ei waith y teli.
Edmwnd Prys
55[2] Duw yn Cynnal a Diddanu.
M. S.
1.TRWY droeau'r byd, a'i wên a'i wg,
Bid da, bid drwg y tybier,
Llaw Dduw sy'n troi'r cwmpasgylch glân
Yn wiwlan, er na weler.
2.Fe weryd wirion yn y frawd
Rhag enllib tafawd atgas;
Fe rydd orffwysfa i alltud blin
Mewn anghynefin ddinas.