3.Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.
4.Pa raid ychwaneg? Gwnelwyf hyn :
Gosteged gwŷn a balchder;
Ac arnat, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.
Samuel Collet, cyf. Goronwy Owen
56[1] SALM CXXI.
M. S.
1.DISGWYLIAF o'r mynyddoedd draw
Lle daw im help 'wyllysgar;
Yr Arglwydd, rhydd im gymorth gref,
Hwn a wnaeth nef a daear.
2.Dy droed i lithro, Ef nis gad,
A'th Geidwad fydd heb huno;
Wele dy Geidwad, Israel lân,
Heb hun na hepian arno.
3.Ar dy law ddehau mae dy Dduw,
Yr Arglwydd yw dy Geidwad;
Dy lygru ni chaiff haul y dydd,
A'r nos nid rhydd i'r lleuad.
4.Yr Iôn a'th geidw rhag pob drwg,
A rhag pob cilwg anfad;
Cei fynd a dyfod byth yn rhwydd,
Yr Arglwydd fydd dy Geidwad.
Edmwnd Prys
57[2] Nid Dim ond Duw.
M. H.
1.Y MAN y bo fy Arglwydd mawr
Yn rhoi ei nefol hedd i lawr,
Mae holl hapusrwydd maith y byd,
A'r nef ei hunan yno i gyd.