Tudalen:Llyfr Emynau MC a MW 1930.pdf/128

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

2.Nid oes na haul na sêr na lloer,
Na daear fawr a'i holl ystôr,
Na brawd, na chyfaill, da na dyn,
A'm boddia hebddo Ef ei Hun.

3.'D yw'r gair "maddeuant " imi ddim,
Nid oes mewn gweddi ronyn grym,
A llais heb sylwedd ŷnt i gyd,
Heb imi weld ei wyneb-pryd.

William Williams, Pantycelyn

58[1] Duw yng ngoleuni'r Groes.
M. H.

1.DUW! er mor eang yw dy waith,
Yn llanw'r holl greadigaeth faith,
'D oes dim trwy waith dy ddwylaw oll
At gadw dyn fu gynt ar goll.

2.Dyma lle mae d'anfeidrol ras
I'r eitha'n cael ei daenu i maes;
A holl lythrennau d'enw a gawn
Yn cael eu dangos yma'n llawn.

3.Ar Galfari, rhwng daer a nef,
Llewyrchodd ei ogoniant Ef;
Un haul ymguddiodd y prynhawn,
A'r llall a wnaed yn eglur iawn.

4.Pa ddawn sydd yn y Duwdod mawr
Nad yw'n ysgrifen yma i lawr?
Beth allsai ddangos pwy wyt Ti
Yn well nag angau Calfari?

William Williams, Pantycelyn


59[2] Ffyrdd Rhagluniaeth.
64. 64. 66. 64.

1.RHAGLUNIAETH fawr y nef,
Mor rhyfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw:

  1. Emyn rhif 58, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 59, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930